Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Addasiadau Canlyniadol a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2022

Pwynt Craffu Technegol: Nodir bod y Rheoliadau, mewn gwahanol leoedd, yn cyfeirio at adran 108(2A)(a) o Ddeddf Trafnidiaeth 2000, sy’n ymwneud â datblygu polisïau perthnasol (yn hytrach na pharagraff 108(2A)(b), sy’n ymwneud â gweithredu’r polisïau hynny). Pan wneir cyfeiriadau o’r fath, bwriedir iddynt gyfeirio’n benodol at adran 108(2A)(a) o Ddeddf Trafnidiaeth 2000, sy’n darparu bod rhaid i bob awdurdod trafnidiaeth lleol y mae ei ardal yng Nghymru ddatblygu polisïau ar gyfer gweithredu Strategaeth Drafnidiaeth Cymru yn eu hardal. Fodd bynnag, mae Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/328) yn addasu Deddf Trafnidiaeth 2000 pan fo’r swyddogaeth o ddatblygu polisïau o dan adran 108(1)(a) a (2A)(a) o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 mewn cysylltiad ag ardal awdurdod trafnidiaeth lleol wedi ei rhoi i gyd-bwyllgor corfforedig.

Mae rheoliad 2(2) (dehongli) yn darparu ar gyfer hyn drwy ddarparu ar gyfer sut y dylid darllen cyfeiriadau at ddarpariaeth addasedig o Ddeddf 2000 yn y Rheoliadau.

Er bod adran 108(2A) o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 sydd heb ei haddasu yn cynnwys adran 108(2A)(a) a (b), nid yw adran 108(2A) addasedig yn cynnwys paragraffau. O ganlyniad, ystyrir ei bod yn gywir cyfeirio at adran 108(2A) addasedig yn hytrach nag at adran 108(2A)(a) addasedig pan wneir cyfeiriadau o’r fath yn rheoliadau 4(4) a (5). Yn ogystal â hynny, mae’r cyfeiriad at adran 108(2A) ym mharagraff cyntaf yr Atodlen yn gyfeiriad at adran 108(2A) addasedig.

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn y gellid, er cysondeb, fod wedi drafftio’r cyfeiriad yn rheoliad 4(4) at unrhyw bolisïau a ddatblygir gan gyngor cyfansoddol o dan adran 108(2A) er mwyn cyfeirio’n benodol at adran 108(2A)(a). Dim ond un cyfeiriad a geir at ddatblygu polisïau yn adran 108(2A), fodd bynnag, ac o ganlyniad ystyrir bod ystyr y ddarpariaeth yn glir.

 

Pwynt Craffu ar Rinweddau: Ni nodwyd unrhyw bwyntiau.